Cofnodion y pymthegfed cyfarfod ar hugain o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013

18.00

 

Aelodau Cynulliad yn bresennol:

Nick Ramsay AC (Ceidwadwyr Cymreig, Mynwy)

Julie James AC (Llafur Cymru, Gorllewin Abertawe)

Russell George AC (Ceidwadwyr Cymreig, Sir Drefaldwyn)

Antoinette Sandbach AC (Ceidwadwyr Cymreig, Gogledd Cymru)

 

Eraill yn bresennol:

Andrew Stumpf – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

Mark Lang – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

Hazel Bowen – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

Russell Dodd – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

David Collins – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

David Morgan – Glandŵr Cymru – Canal & River Trust in Wales

Chris Charters – British Outdoor Professionals Association

Colin Powell – Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Chris Yewlett – Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd

Brian Hancock

John Griffith

Matt Strickland – Cyfoeth Naturiol Cymru

Richard Preece – Cyfoeth Naturiol Cymru

Martin Buckle – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Stephen Hughes – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

John Davies – Ymddiriedolaeth Cychod Cymunedol Abertawe

Charles White – Ymddiriedolaeth Cychod Cymunedol Abertawe

Richard Owen – Grŵp Perchnogion Pysgodfeydd Afon Teifi (TFOG)

Rachael Evans – Cynghrair Cefn Gwlad

 

 

* * * * *

 

Dechreuodd y cyfarfod am 18.15

 

Dechreuodd Nick Ramsay drwy ddweud bod yn rhaid i'r grŵp gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o dan y rheoliadau newydd ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae hyn yn golygu ethol cadeirydd y grŵp, cofrestru aelodau newydd, ac ethol ysgrifennydd.

 

Eitem 1: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Gwnaeth Russell George AC enwebu Nick Ramsay AC i fod yn Gadeirydd.  Ni chafwyd gwrthwynebiad.

 

Cydsyniodd Julie James AC (Llafur Cymru, Gorllewin Abertawe) i ymaelodi â'r grŵp.

 

Cadarnhawyd Glandŵr Cymru – The Canal & River Trust in Wales fel ysgrifenyddiaeth y grŵp.

 

Nododd Nick Ramsay y byddai'r adran 'Materion sy'n Codi' yn cael ei gohirio tan ddiwedd y cyfarfod.

 

Eitem 2: Cyflwyniad: Beyond the Towpath

 

Traddododd Andrew Stumpf, Pennaeth Glandŵr Cymru, drosolwg o strategaeth 10 mlynedd y sefydliad i Gymru, gan nodi mai strategaeth i ehangu pob dyfrffordd yng Nghymru, nid y rhai sydd dan ofal Glandŵr Cymru yn unig yw hon.  Esboniodd Andrew i'r strategaeth gael ei lansio ar 12 Tachwedd yn y Senedd a bod modd ymateb iddi tan 6 Ionawr. 

 

Ychwanegodd Andrew fod cryn synergedd rhwng dyheadau polisi cyhoeddus yng Nghymru a'r potensial i Ddyfrffyrdd fod yn gyfrwng cyflawni.  Mae cytundeb fframwaith a lofnodwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd a Glandŵr Cymru yn helpu i gadarnhau hyn. 

 

Yna eglurodd Andrew Stumpf y strwythur ar gyfer y broses rhoi adborth a'r fformat am y gweddill o sesiwn y grŵp.

 

Eitem 3: Adborth a Thrafodaeth

 

Ymranodd y rhai a oedd yn bresennol yn dri grŵp i drafod y blaenoriaethau a ddylai fod yn strategaeth 10 mlynedd Glandŵr Cymru a fyddai'n hyrwyddo a chadw orau ddyfrffyrdd yng Nghymru. 

 

Meysydd polisi a awgrymwyd:

o   Twf a Swyddi – Dylai creu swyddi fod yn ddangosydd perfformiad allweddol

o   Addysg

o   Twristiaeth Diwylliant a Threftadaeth – adfywio trwy dreftadaeth

o   Dylid gwneud amddiffyn y rhwydwaith presennol o gamlesi yn flaenoriaeth cyn ei ehangu

o   Dylai fod marchnata mwy rhagweithiol, i groesawu defnyddwyr i'r camlesi, gan gynnwys cyfryngau digidol

o   Tai fforddiadwy – angorfeydd preswyl i bobl leol

o   Rhaid i gamlas gael ei gwerthfawrogi y tu hwnt i'w dalgylch a'i choleddu'n drysor cenedlaethol yng Nghymru

o   Adfywio drwy Ddinas-ranbarthau

o   Cynorthwyo o ran cyflawni'r Bil Teithio Llesol

 

Awgrymodd Brian Hancock fod modd cryfhau dyfrffyrdd Cymru drwy i gynghorau roddi camlesi segur i Glandŵr Cymru i'w defnyddio yn gaffaeliad i greu cyllid, gan ddod yn hunangyllidol. Gall y camlesi a adfywir wedyn weithredu fel llwyfan ehangach ar gyfer adfywio trwy ddod yn llwyfan ar gyfer mentrau cymdeithasol.  Byddai mecanweithiau hunangyllidol mwy eu maint yn caniatau i'r Ymddiriedolaeth gadw cronfeydd i'w defnyddio mewn argyfwng, megis camlas yn torri ei glannau. 

 

Gall dyheadau hefyd gynnwys, ymhen amser, gysylltu camlas Mynwy ac Aberhonddu â'r Afon Gwy ger Cas-gwent, gan y gellir mordwyo 110 milltir o'r afon honno, gyda'r posibiliad o gysylltu â Bryste a'r Hafren.   

 

Eitem 4: Materion yn codi

 

Nododd Nick Ramsay i'r mater ynghylch polisi mynediad at ddŵr gael ei godi yn y cyfarfod blaenorol.  Ychwanegodd Nick fod yr Adran Diwylliant a Chwaraeon wedi cadarnhau bod John Griffiths AC, y gweinidog â chyfrifoldeb, wrthi'n adolygu'r polisi hwn, gyda Phapur Gwyrdd ehangach i'w gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mynegodd Richard Owen ei bryder bod Llywodraeth Cymru yn paratoi'r Papur Gwyrdd, ac awgrymodd nad oes gan John Griffiths AC, y Gweinidog, fandad i gynllunio i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer mynediad i ddyfrffyrdd mewndirol.  Ei gred oedd bod adroddiad blaenorol gan Bwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn hyrwyddo mynediad at ddŵr trwy gytundeb gwirfoddol yn hytrach na thrwy ddeddf, sef y safbwynt a gadarnhawyd gan y Cynulliad.  Dywedodd drachefn nad oedd yn credu bod gan Lywodraeth Cymru fandad am gynigion deddfwriaethol yn y maes hwn, a bod hynny yn ofid mawr i'r gymuned genweirio.  Gofynnodd i'r grŵp gadw golwg ar y mater.

 

Cytunodd Nick Ramsay y byddai'n monitro'r polisi hwn. 

 

Eglurodd Chris Charters fod cytundebau gwirfoddol wedi bod ar waith ar gyfer afonydd Gwy, Wysg a Dyfrdwy, ac i fuddiannau glannau afon gael eu cynnwys yn y drafodaeth honno. 

 

Dywedodd Chris Charters nad arwyddwyd yr un cytundeb yn ôl ei ddealltwriaeth ef, ond bod y pysgotwyr wedi rhoi consesiynau i canŵ-wyr. 

 

Gofynnodd Richard Owen i'r Aelodau Cynulliad sy'n aelodau o'r grŵp trawsbleidiol osod cwynion gerbron y Gweinidog ynghylch cyflymder y newid i'r polisi.

 

Nododd Andrew Stumpf mai mater i'r Grŵp yw pennu ei flaenraglen waith.  

 

Nododd Brian Hancock fod erthyglau diweddar mewn papurau newydd wedi nodi rhywfaint o'r gwaith adfer a wnaed i Gamlas Mynwy ac Aberhonddu, ond ei fod yn credu bod y clai anghywir wedi cael ei ddefnyddio mewn mannau fel rhan o'r gwaith hwnnw, ac mewn mannau eraill, newidiwyd proffil y gamlas. 

 

Nododd Andrew Stumpf fod camlesi'n amrywio o ran siâp a dimensiynau oherwydd, yn nyddiau eu defnyddio i gludo nwyddau, nid oedd gofyn i fadau angori neu sefyll wrth y lan, ag eithrio glanfeydd.

 

Mynegodd Brain Hancock bryderon am ran o'r gwaith y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei wneud.  

 

Awgrymodd Andrew Stumpf fod hen ddigon o arbenigedd lleol yn y cymdeithasau camlesi y gellid tynnu arno i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r dimensiynau a'r safonau priodol.  

 

Y Cyfarfod Nesaf: Dydd Mercher 19 Mawrth 2014 am 18.00